Mai 2007
Derbyniodd Calon Lân gefnogaeth cenedlaethol yn mis Mai 2007 yn nghylchgrawn poblogaidd 'Prima,' pryd enwyd olew Camelina Calon Lân fel ei dewis o gynnyrch olew ar gyfer cynnal iechyd y galon. - cliciwch yma i ddarllen y darn.
Cylchlythyr Awst 2007
Yn ein cylchlythyr y mis yma:-
- Gwobr Bwrdd yr Iaith Gymareg
- Twca
- Calon Lan ar werth yn Lloegr
- Rysait
Tua dau fis yn ol dywedais fod Cwmni Calon Lan wedi cael ei enwebu ac wedi cyrraedd y pedwar terfynol yng nghystadleuaeth 'Dylinio Dwyieithog Bwyd a Diod – Bwrdd yr Iaith Gymraeg 2007'. Pleser mawr i'w cyhoeddi mai Calon Lan fu'n fuddigol. Cyflwynwyd tlws hardd iawn i Geraint Hughes mewn seremoni yng Nghaerdydd.
|
|
Erbyn hyn mae gennym dri cynnyrch newydd ar werth, sef casgliad o Twca sef sesnin/rhwbiad sy'n hynod flasus ac unigryw. Had Camelina yw sylfaen y tri.
Yn Twca Rhif 1 neu Y Twb Poeth, mae tsili coch mathredig, cnau pin, Halen Mon, garlleg, pupur du a mintys sych. Dyna griw o gynhwysion diddorol yn te? Mae'n berffaith gyda darn o fara ffres sydd wedi socian mewn olew ac yna ei drochi mewn powlen o'r Twca.
Yna Twca Rhif 2, neu Saffrwn Melys. Y tro yma daw siwgr Demerara, hadau Camelina, Halen Mon, saffrwn, hadau nionyn du, powdr tsili a llysiau'r ehedydd at eu gilydd i greu blas hollol wahanol i ddim a brofwyd o'r blaen. Mae'n fendigedig hefo dail salad sydd wedi eu trochi mewn olew ac yna gwasgaru Twca Rhif 2 arnynt.
Mae Twca Rhif 3 neu'r Porwr yn cynrychioli y gorau o fyd nature. Yn cynnwys perlysiau ffres wedi'u sychu, had Camelina a Halen Mon mae'n barod i rwbio, dipio neu sesno.
Mae'n braf cyhoeddi fod Olewau Calon Lan bellach ar werth yn Lloegr, gyda'r archeb gyntaf wedi ei ddanfon ddoe. Mae Calon Lan hefyd yn lledeunu yma yng Nghymru, gyda siop yng Nghaerdydd nawr yn ei gadw. Os y dymunwch gael gwybod ble mae'r siop agosaf i chi, cysylltwch a ni yma yn Calon Lan.
Hoffwn orffen fel arfer gyda resait, y tro yma gan ddefnyddio Olew Rhif 3 Cywarch.
Saws Pesto Cywarch
6 llond llwy fwrdd Olew Calon Lan Rhif 3
50g hadau cywarch Calon Lan
2 gwpanaid mawr o ddail brenhinllys
1 ewin garlleg wedi'i dorri
50g gaws Parma wedi gratio
Heblaw'r olew, rhowch y cynhwysion mewn cymysgydd bwyd a'u chwyrlio am 30 eiliad. Diferwch Olew Rhif 3 yn araf deg tra'n cymysgu hyd nes ei fod yn cyfuno gyda'r gymysgedd. Ychwanegwch halen a phupur. Tolltwch dros basta newydd ei goginio neu taenwch dros ddarn ffres o bruchetta.
|