Gweledigaeth Geraint Hughes a Dafydd Gruffydd arweiniodd at sefydlu Calon Lân yn 2006. Gyda un yn ei ddauddegau a’r llal yn ei dridegau (gewch chi weithio allan pwy!) aeth y ddau ati yn frwydfrydig i lawnsio ystod newydd o olewau iach a blasus yn nechrau 2007.
Roedd diddordeb Geraint mewn tyfu bwydydd lleol (mae’n gwybod ambell i beth am dyfu cnydau…) ac awch Dafydd i arbrofi yn y gegin (mae’n meddwl ei fod yn giamstar ar goginio!) yn gyfuniad da ar gyfer sefydlu cwmni sy’n ymhyfrydu mewn bwyd nad yw’n gyfffedin.
Bwriad Calon Lân yw tyfu a phrosesu’r bwyd yn leol. Cadwch eich llygaid yn agored am gnwd o Camelina a Cywarch yn tyfu yn eich ardal chi!
Cliciwch ar y botymau isod i ganfod mwy am gwmni Calon Lân:
|