SYNIADAU AR SUT I FWYNHAU TWCA CALON LÂN

 
  1. Dechreuwch barti gyda Calon Lân.  Rhwygwch ddarnau o fara newydd ei grasu ac ewch ati i’w trochi mewn olewau a Thwcas Calon Lân.
  2. Bywiogwch eich salad.  Gwasgarwch eich hoff Dwca ar ben dail salad crensiog wedi’u trochi mewn olew iachus Calon Lân.
  3. Bachwch eich hoff nofel ac ewch am y soffa gyda llond powlen o gawl crasboeth wedi’i sesno’n ysgafn â Thwca Calon Lân.
  4. Dresin syml.  Ychwanegwch 1 llond lwy de o Dwca at 3-4 llond lwy fwrdd o olew Calon Lân gyda joch o finegr gwin coch neu wyn ac ysgydwch.
  5. Gweddnewidiwch eich bocs bwyd!  Gwnewch frechdan i’r brenin gyda llyfiad o mayonnaise a gwasgariad o Dwca Calon Lân arni.

Does dim digon o le i ddweud wrthych pa mor hyblyb gall Twca Calon Lân fod i rwbio stêcs, cebabau, cyw iar, pysgod… pob hwyl yn arbrofi.

 
 
     
 
Hysbysu ffrind | E-bostio ni | Argraffu | Ychwanegu at ffefrynnau
 
       
  Adeiladwyd gan Delwedd, a cynllunwyd gan Delwedd a Jeff Gill