RYSEITIAU

 

Mae finegrétau a sawsiau oer sydd wedi’u gwneud gyda Olew Rh.1 Calon Lân yn bywiogi’r prydau bwyd symlaf. Gall Olew Rh.1 weddnewid pryd o’r cyffredin i’r arbennig - wedi’i droi a throsi mewn salad, ei daenu dros bysgodyn cynnes wedi’i botsio, ei dollti dros eidion poeth wedi’i ferwi, neu’n gloywi platiad o dafelli tatws, puprynnau gwyrdd neu ffa tyner.

Dechrau o’r dechrau

Defnyddiwch gynnyrch tymhorol o’r safon uchaf bob amser.

Peidiwch â defnyddio gormod o gynhwysion rhag ddifetha neu dynnu oddi ar flas arbennig y prif gynhwysyn.

Paratowch ychydig funudau ymlaen llaw yn unig, rhag colli aroma a blas y prif gynhwysion.

1 llond llwy fwrdd Olew Rh.1 Calon Lân
1 llond llwy fwrdd o finegr gwin reis
Pinsiad o bowdr tsili
1 llond llwy de o fêl gloyw
Halen a phupur

Cymysgwch y cynhwysion gyda’i gilydd yn dda, gan ychwanegu digon o bupur a halen.

Delfrydol ar salad neu bysgod.

6 llond llwy fwrdd Olew Rh.1 Calon Lân
2 llond llwy fwrdd o sudd lemon
1 llond llwy de o fêl gloyw
1 llond llwy de o rawn mwstard
Dail cennin syfi wedi’u torri’n fân

Cymysgwch yr holl gynhwysion ac ychwanegwch bupur a halen fel y dymunwch.

Delfrydol ar ddail salad.

6 llond llwy fwrdd Olew Rh.1 Calon Lân
2 llond llwy fwrdd o finegr gwin coch.
15g o ddail brenhinllys wedi’u torri’n fân
1 ewin garlleg bychan, wedi’i dorri
30g o sialóts, wedi’u torri
40g o domatos aeddfed
Halen a phupur wedi’i falu’n ffres

Rhowch y cynhwysion i gyd mewn cymysgydd bwyd a’u chwyrlio am 30 eiliad. Ychwanegwch halen a phupur fel y dymunwch. Tolltwch y saws dros basta newydd ei goginio a’i gymysgu. Hefyd yn ddelfrydol gyda ffa gwyrdd a salad tatws.

4 llond llwy fwrdd Olew Rh.1 Calon Lân
15g o ddail brenhinllys
1 ewin garlleg
2 llond llwy fwrdd o gaws Parma wedi’i gratio
2 llond llwy fwrdd o sudd lemwn
Halen a phupur

Cymysgwch y cynhwysion i gyd mewn cymysgydd bwyd hyd nes fod y dail wedi’u torri’n fân. Tolltwch y saws dros basta ffres a’i gymysgu. Gweinwch gydag olewydd du, tomatos heulsych, cneubinwydd a chaws Parma wedi’i gratio.

Gyda blas cneuog iachusol a’r gallu i ymdopi â thymheredd cyn uched a 255ºC, Olew Rh.2 Calon Lân yw’r dewis perffaith ar gyfer rhostio, serio neu i drochi eich hoff brydau bwyd poeth.

Dechrau o’r dechrau

Defnyddiwch gynnyrch tymhorol o’r safon uchaf bob amser. Peidiwch â defnyddio gormod o gynhwysion rhag ddifetha neu dynnu oddi ar flas y prif gynhwysyn. Golyga gludiogrwydd unigryw Olew Afocado ei fod yn gorchuddio dail salad, llysiau a chig mor gynnil fel bod angen llai i gymharu ag olewau coginio cyffredin. Bydd parodrwydd i arbrofi a dychymyg byw yn wneud gwyrthiau – ewch amdani!

 

 

Puprynnau, moron, panas, corbwmpenni a nionod coch
Olew Rh.2 Calon Lân
Ewinedd garlleg mawr
Brenhinllys neu oregano
Halen a phupur

Torrwch y llysiau yn dafelli a’u rhoi blith drafflith ar fwrdd coginio. Ychwanegwch ewinedd garlleg cyfan a gwasgarwch y perlysiau ffres. Gorchuddiwch â digonedd o Olew Rh.2 Calon Lân a’u coginio mewn popty poeth. Os yn heulog, gorffennwch y coginio ar y barbeciw.

4 llond llwy fwrdd Olew Rh.2 Calon Lân 1 llond llwy fwrdd o finegr gwin coch
1 llond llwy de o fwstard Dijon
2 llond llwy fwrdd o berlysiau sawrus wedi’u torri’n fân (dewisiwch 3 o gorthyfail, cennin syfi, tarragon, persli neu ddail seleri.)
Halen môr o safon a phupur du wedi’i falu’n ffres.

Cymysgwch y cwbl ac ychwanegwch bupur ac halen – y cymar perffaith i salad. Neu brwsiwch y dresin ar stêc, cyw iar, pysgod neu gebabau.

50ml Olew Calon Lân Rh.2 2 ffiled o eog gwyllt
1 ewin garlleg wedi’i dorri’n fân 1 tsili coch wedi’i dorri
300g o domatos ceirios Dail coriander newydd eu pigo
Halen môr o safon a phupur du wedi’i falu’n ffres

Rhowch bupur ac halen ar y ffiledau, a gyda joch dda o Olew Calon Lân Rh.2, rhowch mewn padell boeth. Wedi serio’r ffiledau, trosglwyddwch ar fwrdd coginio a’u rhoi mewn popty poeth.

Gan gadw y badell yn boeth, cynheswch y tomatos hyd nes eu bod yn hollti. Ychwanegwch tsili, garlleg ac Olew Rh.2 Calon Lân a’u cynhesu’n drylwyr. Gosodwch ar blatiau a rhowch y ffiledau wedi’u coginio ar y top. Gwasgarwch ychydig o ddail coriander a mwynhewch.

Taenwch ar basta newydd ei goginio, tatws neu ddail cymysg, neu cymysgwch gyda finegr balsamaidd i ddowcio. Sut bynnag y defnyddiwch, bydd Olew Rh.3 Calon Lân yn trawsnewid bwyd cyffredin yn ddathliad. Er yn perthyn i deulu cannabis, yr unig uchafbwynt gewch chi gyda Olew Rh.3 yw ei flas!

Dechrau o’r dechrau

Defnyddiwch gynnyrch tymhorol o’r safon uchaf bob amser. Peidiwch â defnyddio gormod o gynhwysion rhag ddifetha neu dynnu oddi ar flas y prif gynhwysyn. Defnyddiwch Olew Rh.3 i ddro-ffrio’n ysgafn neu i grilio pysgodyn, ond cofiwch osgoi tymheredd dros 150ºC er mwyn gwarchod y daioni naturiol. Bydd parodrwydd i arbrofi a dychymyg byw yn wneud gwyrthiau – ewch amdani!

6 llond llwy fwrdd Olew Rh.3
2 llond llwy fwrdd o finegr gwyn
½ llwy de o coriander y ddaear
1 ewin garlleg
Sudd 1 lemwn

Dylid paratoi dresins rhai munudau o flaen llaw. Cymsygwch y cynhywsion i gyd ac ychwanegwch halen a phupur.

5 llond llwy fwrdd Olew Rh.3 Calon Lân
30ml finegr seidr
2 llond llwy de o rawn mwstard.

Rhowch y cynhwysion mewn jar ysgwyd, cymysgwch yn dda a taenwch dros salad ffres.

 

6 llond llwy fwrdd Olew Calon Lân Rh.3
50g o hadau cywarch Calon Lân
2 gwpanaid mawr o ddail brenhinllys
1 ewin garlleg wedi’i dorri
50g o gaws Parma wedi gratio

Heblaw’r olew, rhowch y cynhywsion mewn cymysgydd bwyd a’u chwyrlio am 30 eiliad. Diferwch Olew Rh.3 yn araf deg tra’n cymysgu hyd nes ei fod yn cyfuno gyda’r gymysgedd. Ychwanegwch halen a phupur. Tolltwch dros basta newydd ei goginio neu taenwch dros ddarn ffres o bruschetta.

2 llond llwy fwrdd Olew Rh.3 Calon Lân
1 tun 410g o wygbys wedi’u draenio
2 ewinedd garleeg wedi’u gwasgu
2 llond llwy de o sudd lemwn

Cyfunwch y cynhwysion i gyd mewn cymysgydd wedi’i osod ar lefel isel hyd nes yn gymysgedd gwastad. Mwynhewch fel rhan o salad iachus, ychwanegiad mewn brechdan, neu i ddipio.

6 llond llwy fwrdd Olew Calon Lan Rhif 3
50g hadau cywarch Calon Lan
2 gwpanaid mawr o ddail brenhinllys
1 ewin garlleg wedi'i dorri
50g gaws Parma wedi gratio

Heblaw'r olew, rhowch y cynhwysion mewn cymysgydd bwyd a'u chwyrlio am 30 eiliad. Diferwch Olew Rhif 3 yn araf deg tra'n cymysgu hyd nes ei fod yn cyfuno gyda'r gymysgedd. Ychwanegwch halen a phupur. Tolltwch dros basta newydd ei goginio neu taenwch dros ddarn ffres o bruchetta.

Olewau Rh. 1, 2 a 3 Calon Lân – Camelina, Afocado a Cywarch
Cymysgedd dyca sbeislyd
Bara ffres cynnes

Tolltwch yr olewau i fewn i bowlenni arhwahân, tolltwch y dyca ar blât a torrwch y bara yn dafelli. Dechreuwch ddipio! Mae’n ffordd wych i greu argraff dda ar eich ffrindiau ac yn ffordd ddifyr o fwynhau eich hoff olewau iach.

 

 
     
 
Hysbysu ffrind | E-bostio ni | Argraffu | Ychwanegu at ffefrynnau
 
       
  Adeiladwyd gan Delwedd, a cynllunwyd gan Delwedd a Jeff Gill