Rydym yn cydymffurfio’n llawn gyda Deddf Diogelu Data 1998, drwy barchu preifatrwydd y prynwyr. Nid ydym yn datgelu gwybodaeth y prynwyr i drydydd parti, ac eithrio pan brosesir manylion yr archeb fel rhan o gyflawni’r archeb. Yn yr achos hwn, ni fydd y trydydd parti yn datgelu unrhyw fanylion i unrhyw drydydd parti arall. Yn ogystal â hyn, yn unol â Deddf Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig a basiwyd yn Gyfraith ar 11 Rhagfyr 2003, nid ydym yn anfon negeseuon e-bost marchnata ar hap (spam) i gyfeiriadau e-bost personol. Gall unigolion sy’n dymuno cael gwybodaeth gennym ni am ein cynhyrchion a’n cynigion arbennig danysgrifio neu ddiddymu tanysgrifiad i’n rhestr bostio unrhyw bryd. Mewn perthynas â’n rhestr bostio, nid ydym yn datgelu, gwerthu, rhoi na rhyddhau gwybodaeth sydd arni i unrhyw un. |
|