| Gydag Olew ac Had Camelina - Awchus a blasus.
Enw: Pesto Rh.1, Camelina Gwyrdd.
Cyfeiriad: Caeau Celtaidd, Môn Mam Cymru.
Cymwysterau: Arwain y frwydr yn erbyn bwyd cyffredin di-flas. Ffynhonnell wych o omega-3 a fitamin E.
Diddordebau: Wrth ei fodd yn trawsnewid prydau bwyd cyffredin yn ddathliadau lliwgar.
Chwilio am: Cyfeillgarwch glos gyda throelliadau del o basta neu llysiau poeth yn ysu am sbarc. |
|
Cynhwysion: Olew Blodyn yr Haul, Brenhinllys, Olew Camelina, Finegr Seidr, Cashiw, Hadau Camelina, Caws Parma, Cnau Pîn, Garlleg, Halen a Phupur Du.
Cadwch mewn man claear, tywyll, oddi wrth olau’r haul. Rhowch yn yr oergell ar ôl ei agor a gorffennwch o fewn 7 diwrnod. Cynnyrch sy’n cynnwys cnau. Gall llysieuwyr a figaniaid ei fwynhau. Rhydd o GM.
Yn ôl at y cynhyrchion ~ cliciwch yma |