Nôd Calon Lân yw gwerthu cynnyrch o’r safon uchaf bob amser i’n cwsmeriaid. Caiff ein olewau eu cynhyrchu i safon ISO9002 mewn safle wedi’i drwyddedu gan Safonau Masnach.
Ni ddefnyddiwn unrhwy ddeunydd wedi’i addasu’n eneteg yn ein cynnyrch, ac rydym wastad yn chwilio am ffyrdd i leihau ein effaith ar yr amgylchedd. Dyma pam rydym yn gofyn i’n tyfwyr Camelina i gadw eu defnydd o wrtaith yn isel ac i geisio tyfu y cnwd heb chwistrellu o gwbl.
Mae’n bwysig bod ein bwyd yn eich cyrraedd mewn cyflwr da. Dyma pam bod poteli’r olew yn dywyll er mwyn arbed yr olew rhag effaith ddinistriol goleuni’r haul.
Os nad ydych yn haapus gyda unrhwy agwedd o’n gwasanaeth neu gynnyrch, yna cofiwch adael i ni wybod yn syth. |