Cynnyrch>Olew Rh3. Cywarch

 

Nid olew cyffredin , Melys, Hoffus ac yn Barod am Sbri, Perffaith i daenu a throchi Ffynhonell gytbwys o Omega-3 ac Omega-6, Naturiol gyfoethog mewn Gwrthocsidyddion, Wedi’i Oerwasgu, Pur Iawn.

Gyda’i flas melys a chneuog, ac awgrym o bersawr coediog, mae Olew Rh.3 Calon Lân yn llawn brwydfrydedd i drawsnewid y pryd mwyaf cyffredin yn ddathliad cofiadwy.

Taenwch ar basta newydd ei goginio, tatws neu ddail salad ffres. Cymysgwch gyda finegr balsamaidd a’i ddefnyddio ar gyfer dowcio. Defnyddiwch i ddro-ffrio’n ysgafn neu i grilio pysgodyn, ond cofiwch osgoi tymheredd uwch na 150ºC er mwyn gwarchod y daioni naturiol.

Prynu Ar-lein ~ mwy ~ cliciwch yma

 

Wedi’i ryfeddu gan rai o’r gwareiddiadau mwyaf yn hanes, mae Olew Cywarch yn barod i ail-ymddangos. Mae ein Olew Cywarch wedi’i dyfu’n organig ac yn cynnig brasterau iachus omega-3 ac omega-6 yn y gymhareb gorau bosib ar gyfer y corff. Mae dros 90% o’r olew yn annirlawn.

Er ei berthynas i deulu canabis, yr unig uchafbwynt gewch chi gyda’r olew yma yw ei flas.

Pleserwch eich blasbwyntiau. Rhowch wledd i’ch corff. Mi ganfyddwch yn fuan nad olew cyffredin mo Olew Cywarch.

Cyngor Alergedd: Ni allwn warantu rhag gnau.

Rhydd o GM -- Cadwch mewn man claear, tywyll i ffwrdd o olau haul uniongyrchol.

Yn ôl at y cynhyrchion ~ cliciwch yma

Maeth

Gwerthoedd Nodweddiadol
pob 100ml
pob 15ml l
Egni
3321kJ
498kJ
 
807kcal
121kcal
 
Protein
0
0
Carbohydrad
0
0
Braster
87g
13.1g
 
Braster Dirlawn
7.9g
1.2g
Braster Monoannirlawn
68.1g
10.2g
Braster Amlannirlawn
11.0g
1.7g
 
     
 
Hysbysu ffrind | E-bostio ni | Argraffu | Ychwanegu at ffefrynnau
 
       
  Adeiladwyd gan Delwedd, a cynllunwyd gan Delwedd a Jeff Gill