Cynnyrch> Olew Rh1. Camelina

 

Nid olew cyffredin, Hyderus ac anturus gyda mymryn o gynnwrf, Yn berffaith gyda salad, pasta, reis a thatws.Naturiol gyfoethog mewn omega-3 a fitamin Wedi’i oerwasgu, Pur iawn.

Mae Olew Rh1 Calon Lân yn mynnu sylw, gyda’i flas danteithiol, cneuog ac awgrym o arlleg a phorfa ffres. Mae’n berffaith pan eich bod eisiau olew i wneud mwy na iro’ch bwyd.

Taenwch ar eich salad, reis a thatws. Ychwanegwch at eich dresins. Trochwch fara newydd ei grasu ynddo, neu mwynhewch ar ei ben ei hun. Mae olew Camelina yn gwbl amlbwrpas. Peidiwch â choginio ar dymheredd uchel fel ffrio twfn, neu mi gollwch y daioni i gyd.

Prynu Ar-lein ~ mwy ~ cliciwch yma

Er yn hysbys i ddyn ers Oes yr Haearn, anghofiwyd am Olew Camelina neu Mwyniant Euraidd bron ym mhob man heblaw am Rwsia a Llychlyn, ond mae’n prysur cael ei ail ddarganfod. Calon Lân yw’r cyntaf i ddod â fo i Brydain, a chredwn y byddwch yn falch o hynny. Mae’n un o’r ffynonellau naturiol gorau o omega-3 a fitamin E.

Pleserwch eich blasbwyntiau. Rhowch wledd i’ch corff. Mi ganfyddwch yn fuan nad olew cyffredin mo Olew Camelina.

Cyngor Alergedd: Ni allwn warantu rhag gnau.

Rhydd o GM Cadwch mewn man claear, tywyll i ffwrdd o olau haul uniongyrchol.

Yn ôl at y cynhyrchion ~ cliciwch yma

Maeth

Gwerthoedd Nodweddiadol
pob 100ml
pob 15ml
Egni
3308kJ
496kJ
 
807kcal
121kcal
 
Protein
0
0
Carbohydrad
0
0
Braster
93.3g
14g
 
Braster Dirlawn
6.6g
1g
Braster Monoannirlawn
33.3g
5g
Braster Amlannirlawn
53.3g
8g
 
     
 
Hysbysu ffrind | E-bostio ni | Argraffu | Ychwanegu at ffefrynnau
 
       
  Adeiladwyd gan Delwedd, a cynllunwyd gan Delwedd a Jeff Gill