| Cwmni ifanc wedi’i leoli yn Llangefni ar Ynys Môn yw Calon Lân. Geraint Hughes a Dafydd Gruffydd yw’r cyfarwyddwyr.
Bwyta a rhwyfo yw prif ddiddordebau Geraint. Cyfuniad perffaith meddai fo, achos mae sesiwn galed o rwyfo yn caniatau iddo fwyta mwy o fwyd heb roi pwysau ymlaen!
Coginio a garddio sy’n helpu Dafydd i ymlacio – tipyn o wahaniaeth i’w ddyddiau yn sglefrio ar ei fwrdd sgrialu yng Nghaernarfon! Llynedd cafodd Dafydd a’i wraig Melangell ferch bach o’r enw Martha sy’n brysur dyfu fyny.
 |
Dafydd yn hel atgofion am ei ddyddiau yn sgrialu ar y strydoedd.
|
|
|
Dafydd a Geraint yn cynnal sesiwn ymchwil a datblygu ar gyfer Calon Lan gyda help Melangell.
|
|
|